OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 1096 (Cy. 135) (C. 35)
Y Gymraeg, Cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 5) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’n cychwyn darpariaethau yn y Mesur sy’n ymwneud â datgelu gwybodaeth y mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ei chael wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd, a darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgynghori â Phanel Cynghori’r Comisiynydd. Mae’r Gorchymyn hefyd yn cychwyn diffiniad o ystyr “hysbysiad cydymffurfio” at ddibenion y rhannau hynny o’r Mesur sy’n ymdrin â safonau’n ymwneud â’r Gymraeg.
NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth |
Y dyddiad cychwyn |
Rhif O.S. |
adran 2(2) (yn rhannol) adran 2(3) (yn rhannol) adran 2 (yn llawn) adran 3
adrannau 5 a 6
adran 7 (yn rhannol)
adrannau 8 i 10
adrannau 12 i 15
adran 16 (yn rhannol) adrannau 17 i 19
adran 23(1) (yn rhannol) adran 23(4)
adran 23 (yn llawn)
Rhan 4, Penodau 2 i 5 Rhan 4, Pennod 8 Rhan 4, Pennod 9 (yn rhannol) Rhan 6
adran 120(4) yn rhannol adrannau 134 i 137 adrannau 138 a 139 adrannau 138 a 139 (yn llawn) adran 140 (yn rhannol) adran 141 (yn rhannol) adrannau 142 a 143 adran 144 (yn rhannol) adran 146 (yn rhannol) adran 146 (yn llawn) adran 147
adrannau 148 a 149
Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 Atodlen 1 (yn llawn) Atodlen 2 (yn rhannol)
Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11 Atodlen 4 (yn llawn) Atodlenni 5 i 9
Atodlen 11 (yn rhannol)
Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6 Atodlen 12 (yn llawn) |
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
10 Ionawr 2012
10 Ionawr 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
28 Mehefin 2011 1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
28 Mehefin 2011
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
5 Chwefror 2012
28 Mehefin 2011
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
10 Ionawr 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
1 Ebrill 2012
28 Mehefin 2011
1 Ebrill 2012 |
2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126)
2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/46 (Cy.10) 2012/46 (Cy.10) 2012/969 (Cy.126)
2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2011/1586 (Cy. 182) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2011/1586 (Cy. 182) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/223 (Cy.37)
2011/1586 (Cy. 182)
2012/969 (Cy.126)
2012/969 (Cy.126)
2012/46 (Cy.10)
2012/969 (Cy.126) 2012/969 (Cy.126) 2012/969 Cy. 126)
2011/1586 (Cy. 182)
2012/969 (Cy.126)
|
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 1096 (Cy. 135) (C. 35)
Y Gymraeg, cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 5) 2012
Gwnaed 13 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 5) 2012.
Cychwyn
2.Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 17 Ebrill 2012—
(a) adran 22 ac eithrio isadran 2(b) i (d) a’r diffiniad o “ymchwiliad i orfodi safonau” yn isadran (9);
(b) adran 24; ac
(c) adran 44.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
13 Ebrill 2012